Neidio i'r cynnwys

Pregethu ar Hyd Afon Xingu

Pregethu ar Hyd Afon Xingu

Yn gynnar ym mis Gorffennaf 2013, roedd grŵp o 28 o Dystion Jehofa yn barod i adael tref o’r enw São Félix do Xingu a chychwyn am ardal yr Indiaid Caiapo a Iwrwna. Mewn cwch 15 metr (50 troedfedd), aethon nhw i fyny afon Xingu sy’n llifo am 2,092 cilomedr (1,300 milltir) tua’r gogledd cyn ymuno ag afon Amason.

Y rheswm am y daith oedd pregethu am Deyrnas Dduw i’r bobl sy’n byw yn y pentrefi ar hyd yr afon. Erbyn y trydydd dydd roedd y grŵp wedi cyrraedd pentref o’r enw Kokraimoro, lle cawson nhw eu croesawu â gwên a chyfeillgarwch. Roedd un wraig yn chwifio ei breichiau’n gyffrous. Esboniodd dyn lleol a deithiodd gyda’r grŵp: “Mae’r arwyddion yn golygu: ‘Dewch bawb. Rydyn ni eisiau eich cyfarfod chi!’”

Siaradodd y Tystion â phawb, naill ai mewn Portiwgaleg neu gan ddefnyddio arwyddion i gyfathrebu. Roedd y lluniau lliw yn y cyhoeddiadau yn help mawr. Roedd llawer o bobl yn awyddus i gael copïau, yn enwedig o’r llyfryn Gwrando ar Dduw.

Mae Gerson, sydd yn arloeswr arbennig yn São Félix do Xingu, yn cofio ymateb un dyn a dderbyniodd y llyfr Storïau o’r Beibl: “Cymerodd y llyfr a’i ddal yn dynn â’i ddwy law; doedd o ddim am ollwng ei afael arno am funud.”

Gadawodd Tystion Jehofa tua 500 o lyfrau, cylchgronau, a llyfrynnau gyda phobl yn y pentrefi ar hyd yr afon. Yn Kawatire, roedd gan y bobl ddiddordeb mawr yn addewid y Beibl am y baradwys ar y ddaear. “Bydd pobl yn y baradwys yn byw fel rydyn ni’n byw,” mentrodd Tonjaikwa, un o’r Indiaid Caiapo.

Roedd llawer yn São Félix do Xingu wedi clywed am y daith. Dywedodd Simone, un o aelodau’r grŵp, fod rhai yn y dref wedi amau na fyddai hi a’i ffrindiau yn cael mynd i mewn i’r pentrefi. Ond nid oedd dim problem. “Cawson ni groeso ym mhob man,” meddai Simone, “ac roedden ni’n gallu siarad â phawb.”