Neidio i'r cynnwys

Help ar Gyfer Pobl Ifanc Sy’n Wynebu Bwlio yn yr Ysgol

Help ar Gyfer Pobl Ifanc Sy’n Wynebu Bwlio yn yr Ysgol

Yn ddiweddar, derbyniodd Hugo, sy’n ddeg mlwydd oed, wobr Diana gan elusen ym Mhrydain am ei waith i helpu disgyblion yn ei ysgol i fynd i’r afael â bwlio.

Dywedodd Hugo: “Dylai’r clod am y wobr hon fynd i’r fideo bwrdd gwyn Beat a Bully Without Using Your Fists. Mi ddes i’n llysgennad yn erbyn bwlio oherwydd y pethau a ddysgais o’r fideo honno ar jw.org.”

“Mae plant trwy’r byd yn cael eu bwlio bob dydd . . . , ond . . . fe elli di wneud rhywbeth yn ei gylch.” (Dyfyniad o’r fideo Beat a Bully Without Using Your Fists)

Dangosodd Hugo y fideo i’w athrawon yn gyntaf. Gwnaeth y fideo argraff fawr arnyn nhw, ac fe wnaethon nhw drefnu i’r wefan jw.org fod ar gael i’r disgyblion i gyd. Erbyn hyn, mae llawer o’r disgyblion rhwng wyth a deg oed yn ysgol Hugo yn defnyddio jw.org yn rheolaidd. Maen nhw’n dweud ei bod wedi eu helpu nhw, nid yn unig i ymdopi â phroblemau fel bwlio, ond hefyd i ateb cwestiynau fel Sut gallaf wneud ffrindiau da?

Camau Positif yn Helpu Pobl Ifanc

Mewn ysgol arall ym Mhrydain roedd Elijah, sy’n wyth oed, yn cael ei fwlio. Ar ôl gwylio’r fideo Beat a Bully, fe wnaeth Elijah a’i deulu ymarfer beth byddai Elijah yn gallu ei ddweud a’i wneud pan fyddai’n cael ei fwlio. Rhoddodd hynny hyder i Elijah, ac fe ddeliodd â’r broblem yn llwyddiannus. Yn nes ymlaen, yn ystod wythnos gwrth-fwlio, penderfynodd y prifathro ddangos y fideo i’r ysgol gyfan.

Wrth gwrs, nid yn unig ym Mhrydain y mae bwlio yn broblem. Mae’n digwydd drwy’r byd ac mae’r fideo hon yn helpu pobl ifanc ym mhobman.

Yn yr Unol Daleithiau roedd Ivie, sy’n ddeg mlwydd oed, yn ofni merch yn ei dosbarth a oedd yn ei bwlio hi. Ar ôl gwylio’r fideo Beat a Bully, magodd Ivie ddigon o blwc i wynebu’r ferch. Cafodd help gan ei hathro hefyd ar ôl iddi siarad ag ef. Ymddiheurodd y ferch, ac erbyn hyn mae hi ac Ivie yn ffrindiau.

Mae Tystion Jehofa yn awyddus i helpu pobl ifanc. Byddan nhw’n parhau i gyhoeddi cyngor ymarferol am broblemau fel bwlio.