JW.ORG—Yn Newid Bywydau er Gwell
Mae pobl o bedwar ban y byd yn manteisio ar jw.org. Isod fe welwch sawl mynegiad llawn gwerthfawrogiad sydd wedi cyrraedd pencadlys byd-eang Tystion Jehofa, hyd at fis Mai 2014.
Helpu Plant Ifanc
“Roedd fy mhlentyn yn arfer dod adref o’r ysgol feithrin gyda phethau oedd yn perthyn i’w ffrindiau, fel pensiliau, teganau bach, a hyd yn oed sbectol haul. Sawl gwaith, ceision ni ei helpu i weld bod hynny cystal â dwyn, a bod dwyn yn ddrwg. Doedden ni ddim yn llwyddiannus nes inni lawrlwytho’r fideo Mae Dwyn yn Ddrwg o jw.org. Cafodd hynny ddylanwad cryf ar ein mab, ac roedd yn gweithio fel ffisig arno. Ar ôl gwylio’r fideo, dangosodd ei ddymuniad i roi’r pethau i gyd yn ôl i’w ffrindiau, a nawr mae’n gwbl sicr bod dwyn yn ddrwg yng ngolwg Duw. Mae’r wefan hon wedi ein helpu gymaint!”—D. N., Affrica.
“Cafodd y fideo Mae Dwyn yn Ddrwg o jw.org . . . ddylanwad cryf ar ein mab, ac roedd yn gweithio fel ffisig arno”
“Mae fy mhlant wrth eu boddau â’r wefan. Maen nhw’n lawrlwytho fideos byr wedi eu hanimeiddio sy’n eu helpu i wella’r ffordd maen nhw’n rhoi ar waith egwyddorion y Beibl ynglŷn â dweud celwydd a dwyn. Maen nhw hefyd yn dysgu rhinweddau da fydd yn ddefnyddiol trwy gydol eu bywydau, ac yn eu helpu i fod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned.”—O. W., India’r Gorllewin.
Helpu’r Rhai yn yr Ysgol
“Roeddwn i’n gweld yr ysgol fel baich, ac roeddwn i’n meddwl am roi’r gorau iddi. Ond, un diwrnod, darllenais yr erthygl ‘Should I Quit School?’ ar y wefan jw.org. Roedd yn fy helpu i weld yr ysgol mewn ffordd bositif. O ddarllen yr erthygl sylweddolais byddai mynd i’r ysgol yn fy hyfforddi ar gyfer y dyfodol, a’m helpu i fod yn berson cyfrifol.”—N. F., Affrica.
“Mae’r cyngor ar gyfer pobl ifanc sydd ar y wefan hon wedi dangos imi sut i gadw’n foesol yn yr ysgol”
“Mae’r cyngor ar gyfer pobl ifanc sydd ar y wefan hon wedi dangos imi sut i gadw’n foesol yn yr ysgol. Dw i wedi dysgu sut i ganolbwyntio ar fy addysg, a sut i osgoi pethau a all dynnu fy sylw.”—G., Affrica.
“Dywedodd un o’m cyd-weithwyr fod geneth yn pigo ar ei merch hi yn yr ysgol. Cafodd hyn gymaint o effaith negyddol ar y ferch fel nad oedd hi’n mynd i’r ysgol am ddyddiau oherwydd roedd hi mor ofnus. Soniais wrth y fam am rai o’r pwyntiau yn yr animeiddiad bwrdd gwyn Beat a Bully Without Using Your Fists, sydd ar gael ar jw.org. Roedd hi’n hoff iawn o’r awgrym i ddefnyddio hiwmor i dawelu’r sefyllfa. Siaradodd y fam â’i merch am sut i leddfu effaith y bwli. O ganlyniad, aeth yr eneth yn ôl i’r ysgol yn teimlo’n llawer mwy hyderus. Ym mhen amser, gwellodd y sefyllfa, a nawr mae’r bwli yn gyfeillgar.”—V. K., Dwyrain Ewrop.
Helpu Oedolion Ifanc
“Diolch am yr erthygl ar y wefan yn dwyn y teitl ‘Why Do I Cut Myself?’ Dyma broblem dw i wedi brwydro yn ei herbyn ers hydoedd. Roeddwn i’n meddwl fy mod i ar fy mhen fy hun, a byddai neb yn deall os oeddwn i’n sôn am y broblem. Roedd yr enghreifftiau yn yr erthygl yn help mawr imi. O’r diwedd dyma rywun yn deall!”—Dynes ifanc yn Awstralia.
“Roedd yr enghreifftiau yn yr erthygl yn help mawr imi. O’r diwedd dyma rywun yn deall!”
“Mae’r wefan jw.org wedi ei gwneud hi’n haws o lawer i ddod o hyd i wybodaeth am broblemau sydd yn effeithio ar bobl ifanc. Roedd un erthygl yn arbennig wedi fy helpu i adnabod gwahanol fathau o aflonyddwch rhywiol, i weld fy mod i wedi dioddef ohono, ac i ddysgu’r ffordd gywir o ymdrin â’r peth.”—T. W., India’r Gorllewin.
Helpu Rhieni
“Mae fy mab yn orfywiog. Yn aml dw i’n ei chael hi’n anodd delio â’i ymddygiad ansefydlog ac anghyson. O ganlyniad, ar adegau roedd hi’n anodd inni gyfathrebu. Un diwrnod, mi es i at jw.org ac edrych ar yr adran ar gyfer cyplau priod a rhieni. Yna welais gymaint o erthyglau a oedd yn berthnasol i’m hamgylchiadau ac yn dangos imi sut i gyfathrebu â fy mab. Mae’r wefan wedi bod yn llesol iddo fo hefyd. Rŵan mae o’n siarad yn agored gyda mi am y pethau mae o’n eu mwynhau, ac am ei bryderon.”—C. B., Affrica.
“Yn aml, bydd erthygl yn ymddangos ar jw.org yn union pan fydd angen ymdrin â her mae’r plant yn ei hwynebu”
“I ni fel rhieni, mae jw.org yn cynnig ffordd bleserus o ddysgu ein plant. Er enghraifft, roedd y fideo ‘Beth yw Ffrind Go Iawn?’ yn helpu ein plant i ddeall gwir ystyr cyfeillgarwch ac i ddewis ffrindiau a fydd yn ddylanwad da arnyn nhw. Yn aml, bydd erthygl yn ymddangos ar jw.org yn union pan fydd angen ymdrin â her mae’r plant yn ei hwynebu. Mae’n ffynhonnell ffrwythlon o gyngor.”—E. L., Ewrop.
Helpu Cyplau Priod
“Priodais fy ngwraig chwe blynedd yn ôl. Fel pob cwpl, rydyn ni wedi wynebu’r her o ddod i arfer â’n ffyrdd gwahanol o gyfathrebu, ein cefndiroedd gwahanol, a’n barnau gwahanol. Erthygl a dynnodd fy sylw ar jw.org oedd ‘How to Be a Good Listener.’ Ynddi roedd cyngor ar sut i wrando’n well. Darllenais yr erthygl ac yna ei dangos i’m gwraig. Rydyn ni’n ceisio defnyddio’r awgrymiadau ymarferol.”—B. B., India’r Gorllewin.
“Mae’r wefan wedi achub fy mhriodas”
“Dw i wedi bod yn cymdeithasu â Thystion Jehofa dros y flwyddyn ddiwethaf, a hoffwn ddweud faint rydw i’n gwerthfawrogi’r wefan jw.org. Dw i wedi dysgu llawer iawn o’r wefan hon, yn cynnwys sut i reoli fy nhymer a sut i fod yn ŵr da ac yn well dad. Wir ichi, mae’r wefan wedi achub fy mhriodas.”—L. G., India’r Gorllewin.
Helpu’r Byddariaid
“Oherwydd jw.org, dw i’n teimlo fy mod i wedi dod yn fyw eto. Drwy wylio’r fideos yn Iaith Arwyddion America, mae fy iaith arwyddo wedi gwella. Doeddwn i ddim yn teimlo y galla’ i osod unrhyw nod o bwys yn fy mywyd, ond pan welais y fideo Seeing God’s Word in My Language, fe dwymodd fy nghalon ac atgyfnerthodd fy mwriad o gadw fy ngolwg ar agweddau adeiladol bywyd.”—J. N., Affrica.
“Oherwydd jw.org, dw i’n teimlo fy mod i wedi dod yn fyw eto”
“Yn wir, mae’r wefan yn werthfawr iawn. Rydw i’n gweithio fel gwirfoddolwr gyda’r byddariaid, yn enwedig rhai ifanc. Mae’r dewis helaeth o bethau yn yr iaith arwyddion wedi gwella fy sgiliau arwyddo. Mae’r wefan hefyd wedi fy helpu i roi cymorth i bobl sy’n dymuno gwella perthnasau yn y teulu a chyda ffrindiau.”—K. J., India’r Gorllewin.
Helpu’r Deillion
“Dw i’n berson dall sydd wedi elwa o ddefnyddio jw.org. Dw i’n cael gwybodaeth ohoni a fyddai’n cymryd misoedd i gyrraedd drwy’r post. Mae’r wefan wedi cyfoethogi fy mywyd teuluol ac wedi fy helpu i fod yn ddefnyddiol yn y gymuned. Hefyd, dw i’n gallu derbyn gwybodaeth ar yr un pryd â’m ffrindiau sydd â’r gallu i weld.”—C. A., De America.
“Mae’r wefan wedi cyfoethogi fy mywyd teuluol ac wedi fy helpu i fod yn ddefnyddiol yn y gymuned”
“Mae jw.org yn drysor i unrhyw un nad yw’n gallu darllen Braille neu sydd yn methu fforddio llyfrau Braille. Drwy wrando ar recordiadau sain addysgiadol, gall pobl ddall gadw i fyny â gwybodaeth ddiweddar ar bob math o bynciau. Mae’r wefan hon wedi ei dylunio ar gyfer pawb, heb fod yn anffafriol nac yn bleidiol. Mae’n ein helpu ni’r deillion i deimlo’n gyfartal ag eraill, ac yn rhan o’r gymuned.”—R. D., Affrica.
Helpu Pobl Sydd Eisiau Dod i Adnabod Duw
“Y gwahaniaeth rhwng eich gwefan chi a gwefannau crefyddol eraill yw’r ffordd rydych chi’n osgoi drysu pobl gyda geiriau a thermau crefyddol sy’n ddealladwy i offeiriaid yn unig. A dydy hi ddim yn eich llethu dan ormod o wybodaeth. Mae eich gwefan yn syml ac yn uniongyrchol. Dydy hi ddim yn eiriog nac yn llawn athroniaeth. Dydy hi ddim yn rhoi’r argraff bod ffydd yn rhywbeth cymhleth. Yn hytrach, mae’n dangos bod ffydd yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd y bobl gyffredin.”—A. G., Asia.
“Mae eich gwefan yn syml ac yn uniongyrchol . . . Mae’n dangos bod ffydd yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd y bobl gyffredin”
“Digalon! Fel yna byddwn i’n ei deimlo heb jw.org. Mewn byd sy’n ysbrydol dywyll, mae’r wefan hon fel lamp gallaf ei goleuo. Ar unwaith, gallaf weld a chlywed erthyglau sy’n egluro safbwynt Duw ar wahanol bynciau a derbyn atebion i lawer o gwestiynau mawr bywyd.”—J. C., India’r Gorllewin.
“Dw i wrth fy modd gyda’r cymorth ysbrydol dw i’n ei gael yma yng nghanol y jyngl yn Ne America. Heb y wefan, byddwn i ar goll.”—M. F., De America.