MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
“I Bob Golwg Roeddwn i’n Byw’r Freuddwyd”
GANWYD: 1962
GWLAD ENEDIGOL: Canada
HANES: Bywyd anfoesol
FY NGHEFNDIR
Cefais fy ngeni ym Montreal, dinas fwyaf rhanbarth Cwebéc yng Nghanada. Roedd gen i un chwaer a dau frawd. Cawson ni ein magu mewn cymdogaeth ddymunol o’r enw Rosemont. Roedden ni’n deulu hapus ac roedd bywyd yn heddychlon.
Yn blentyn, roedd gen i ddiddordeb yn y Beibl. Cofiaf fwynhau darllen am fywyd Iesu yn y Testament Newydd pan oeddwn i’n ddeuddeg mlwydd oed. Roedd cariad Iesu a’i drugaredd yn cyffwrdd â’m calon, a gwneud imi eisiau bod yr un fath ag ef. Yn anffodus, diflannodd yr awydd hwnnw wrth imi dyfu a dechrau gwneud ffrindiau a oedd yn ddylanwad drwg arna i.
Sacsoffonydd oedd fy nhad. Rhoddodd imi, nid yn unig ei offeryn, ond hefyd gariad at gerddoriaeth a ddaeth yn ganolbwynt i fy mywyd. Roeddwn i’n mwynhau cerddoriaeth yn fawr iawn, ac ymhen fawr o dro dysgais chwarae’r gitâr. Cyn bo hir, fe wnes i ffurfio band roc a pherfformio mewn sawl gig. Tynnodd hyn sylw rhai cynhyrchwyr yn y diwydiant recordio, a daethon nhw ataf fi gyda chynnig. Arwyddais gytundeb gyda chwmni recordio adnabyddus. Daeth fy ngherddoriaeth yn boblogaidd, a chael ei chwarae yn rheolaidd ar y Radio yn Cwebéc.
I bob golwg roeddwn i’n byw’r freuddwyd. Roeddwn i’n ifanc ac yn enwog ac yn ennill arian mawr yn gwneud gwaith roeddwn i’n ei garu. Yn ystod y dydd byddwn i’n mynd i’r gym, yn rhoi cyfweliadau, yn cynnal sesiynau llofnodi, ac yn ymddangos ar y teledu. Gyda’r nos, byddwn i’n chwarae gigs a mynd i bartis. Roeddwn i wedi dechrau yfed alcohol er mwyn wynebu’r ffans, ond es i ymlaen wedyn i gymryd cyffuriau. Roeddwn i’n byw bywyd hollol ddi-hid ac anfoesol.
Roedd rhai yn genfigennus, gan feddwl fy mod yn hapus. Ond roedd y gwacter yn fy nghalon yn fy llethu, yn enwedig pan oeddwn i ar fy mhen fy hun, Roeddwn yn isel ac yn bryderus. Wedyn, a fy ngyrfa ar ei hanterth, bu farw dau o’m cynhyrchwyr o AIDS. Roedd y sioc yn ofnadwy! Roeddwn i’n caru’r gerddoriaeth, ond yn gweld y ffordd roedd llawer o gerddorion yn byw yn beth ffiaidd.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD
Er fy mod i’n llwyddo, roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth mawr o’i le ar y byd. Pam roedd cymaint o annhegwch? Doeddwn i ddim yn gallu deall pam nad oedd Duw wedi gwneud dim. Byddwn yn gweddïo ar Dduw yn aml yn gofyn am atebion. Yn ystod saib rhwng teithiau, dechreuais ddarllen y Beibl eto. Er nad oeddwn i’n deall y rhan fwyaf ohono, des i’r casgliad bod diwedd y byd yn agos.
Darllenais yn y Beibl fod Iesu wedi ymprydio yn yr anialwch am 40 diwrnod. (Mathew 4:1, 2) Roeddwn i’n meddwl efallai byddai Duw yn dangos imi pwy oedd Ef petawn i’n gwneud yr un fath, felly fe wnes i bennu dyddiad i gychwyn. Bythefnos cyn imi ddechrau, daeth dau o Dystion Jehofa at y drws, a gofynnais iddyn nhw ddod i mewn fel petawn i wedi bod yn eu disgwyl. Jacques oedd enw un ohonyn nhw. Edrychais i fyw ei lygaid a gofyn, “Sut gallwn ni wybod ein bod ni’n byw yn nyddiau diwethaf y byd hwn?” I ateb y cwestiwn, agorodd y Beibl a darllen 2 Timotheus 3:1-5. Roedd gen i lu o gwestiynau eraill iddyn nhw, ond roeddwn i’n fodlon iawn ar yr atebion rhesymegol a welais yn y Beibl. Ar ôl siarad â nhw nifer o weithiau, sylweddolais nad oedd angen imi ymprydio.
Dechreuais astudio’r Beibl yn rheolaidd gyda’r Tystion. Ym mhen amser, cefais dorri fy ngwallt hir a dechrau mynd i’r holl gyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. Roedd y croeso cynnes a gefais yn y cyfarfodydd yn gwneud imi gredu fy mod i wedi cael hyd i’r gwirionedd o’r diwedd.
Wrth gwrs, er mwyn rhoi ar waith yr hyn roeddwn i yn ei ddysgu o’r Beibl, roedd rhaid imi wneud newidiadau mawr. Yn un peth, roeddwn i’n gorfod stopio defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a dechrau byw bywyd moesol. Hefyd roedd rhaid imi newid fy agwedd hunanol, a dechrau dangos mwy o ddiddordeb mewn pobl eraill. Fel rhiant sengl, roedd rhaid imi ddysgu sut i ofalu am anghenion emosiynol ac ysbrydol fy mab a fy merch. Felly gadewais fy ngyrfa fel cerddor a chymryd gwaith mewn ffatri ar gyflog isel.
Nid hawdd oedd gwneud y newidiadau hyn. Wrth imi weithio i roi’r gorau i gyffuriau, roeddwn i’n dioddef symptomau diddyfnu annymunol, ac fe wnes i lithro’n ôl sawl gwaith. (Rhufeiniaid 7:19, 21-24) Roedd gadael fy mywyd anfoesol ar ôl yn her arbennig. Hefyd, roedd fy swydd newydd yn flinedig iawn, a’r cyflog pitw yn fy nigalonni. Cymerai dri mis imi ennill cyflog y byddwn i wedi ei ennill mewn dwy awr fel cerddor.
Gweddi oedd y peth a oedd yn fy helpu i ddal ati a gwneud y newidiadau anodd hyn. Hanfodol hefyd oedd darllen y Beibl yn rheolaidd. Roedd rhai adnodau o’r Beibl yn help arbennig. Un oedd 2 Corinthiaid 7:1, sy’n annog Cristnogion i ‘lanhau eu hunain o unrhyw beth allai eu gwneud yn aflan.’ Adnod arall oedd yn fy atgoffa i fod modd torri’n rhydd o’m hen arferion drwg oedd Philipiaid 4:13, sy’n dweud “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.” (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Atebodd Jehofa fy ngweddïau a’m helpu i ddeall y gwirioneddau yn y Beibl a’u rhoi ar waith o’r diwedd. Roeddwn i eisiau cysegru fy mywyd iddo. (1 Pedr 4:1, 2) Cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa ym 1997.
FY MENDITHION
Petaswn i wedi parhau i fyw fel yr oeddwn i, rydw i’n sicr y byddwn i wedi marw erbyn hyn. Yn lle hynny, mae fy mywyd yn wirioneddol hapus! Un fendith amhrisiadwy yw fy ngwraig annwyl Elvie. Rydyn ni’n mwynhau gweithio gyda’n gilydd fel gweinidogion llawn amser yn dysgu eraill am y gwir. Mae hyn yn dod â llawenydd mawr imi. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Jehofa am fy nhynnu i ato.—Ioan 6:44.