MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
“Roedd Gen i Fwy o Gwestiynau Nag Atebion”
Ganwyd: 1976
Gwlad Enedigol: Hondwras
Hanes: Gweinidog yn yr eglwys
FY NGHEFNDIR
Cefais fy ngeni yn La Ceiba, Hondwras, yr ieuengaf o bump o blant, a’r unig fab. Fi hefyd oedd yr unig un a oedd yn fyddar yn y teulu. Roedden ni’n byw mewn ardal beryglus, ac roedden ni’n dlawd iawn. Aeth bywyd yn anoddach fyth pan fu farw fy nhad mewn damwain yn y gwaith, pan oeddwn i’n bedair oed.
Roedd fy mam yn gwneud ei gorau i ofalu amdana i a fy chwiorydd, ond yn bur anaml oedd digon o bres ganddi i brynu dillad imi. Pan oedd hi’n glawio, roeddwn i’n oer oherwydd nad oedd gen i ddillad cynnes.
Wrth imi dyfu i fyny, dechreuais ddysgu Iaith Arwyddion Hondwras (LESHO), ac roedd hynny’n golygu fy mod i’n gallu cyfathrebu â phobl eraill a oedd yn fyddar. Ond nid oedd fy mam a fy chwiorydd wedi dysgu LESHO. Yr unig beth roedden nhw’n gallu ei wneud oedd defnyddio ychydig o ystumiau a chreu arwyddion eu hunain i gyfathrebu â mi. Er hynny, roedd fy mam yn fy ngharu ac yn fy amddiffyn rhag peryg. Gyda’r arwyddion oedd ganddi, ceisiodd fy rhybuddio i osgoi pethau drwg fel ysmygu a chamddefnyddio alcohol. O ganlyniad i hynny, rydw i’n ddiolchgar nad ydw i erioed wedi bod yn gaeth i bethau felly.
Pan oeddwn i’n ifanc, roedd fy mam yn mynd â fi i’r Eglwys Gatholig, ond doeddwn i ddim yn deall dim am nad oedd neb yn cyfieithu i iaith arwyddion. Roeddwn i wedi diflasu cymaint nes imi stopio mynd i’r eglwys pan oeddwn i’n ddeg oed. Ond, roeddwn i’n dal eisiau gwybod mwy am Dduw.
Ym 1999, pan oeddwn i’n 23 blwydd oed, cwrddais â dynes o’r Unol Daleithiau a oedd yn aelod o eglwys efengylaidd. Cefais wersi am y Beibl ganddi hi, a dysgu Iaith Arwyddion America (ASL). Roeddwn i’n mwynhau dysgu am y Beibl cymaint nes imi benderfynu mynd yn weinidog. Felly symudais i Puerto Rico i hyfforddi mewn canolfan Gristnogol i bobl fyddar. Pan ddes i yn ôl i La Ceiba yn 2002, gyda chefnogaeth rhai o fy ffrindiau, sefydlais eglwys i bobl fyddar. Yn nes ymlaen, daeth un o’r ffrindiau hyn, Patricia, yn wraig imi.
Yn yr eglwys, roeddwn i’n pregethu yn LESHO, gan ddangos lluniau o’r storïau yn y Beibl, ac actio’r storïau i helpu’r byddar i ddeall. Roeddwn i hefyd yn ymweld â phobl fyddar mewn trefi cyfagos i’w hannog nhw a’u helpu nhw gyda’u problemau. Fe es i ar daith genhadol i’r Unol Daleithiau a Sambia. Ond mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y Beibl. Yr unig beth roeddwn i yn ei wneud oedd ailadrodd beth oeddwn i wedi ei ddysgu ac esbonio rhywfaint ar y lluniau. Y gwir oedd bod gen i fwy o gwestiynau nag atebion.
Un diwrnod, dechreuodd rhai aelodau o’r eglwys ddweud celwyddau amdana i. Dywedon nhw fy mod i’n feddwyn ac yn anffyddlon i fy ngwraig. Roeddwn i wedi fy siomi ac yn ddig. Yn fuan wedyn, gadawodd Patricia a finnau’r eglwys.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD
Roedd Tystion Jehofa wedi cnocio ar ein drws ond roeddwn ni bob amser yn gwrthod siarad â nhw. Sut bynnag, ar ôl i ni adael yr eglwys, cytunodd Patricia i astudio’r Beibl gyda chwpl priod a oedd yn Dystion—Thomas a Liccy. Roeddwn i’n llawn edmygedd oherwydd er nad oedden nhw’n fyddar, roedden nhw wedi dysgu iaith arwyddion. Yn fuan iawn, ymunais yn yr astudiaeth.
Roedden ni’n astudio am rai misoedd gan ddefnyddio fideos yn ASL. Ond pan ddywedodd rhai o’n ffrindiau bod Tystion Jehofa yn dilyn unigolion, fe wnaethon ni stopio astudio. Er i Thomas dangos tystiolaeth i mi a brofodd nad ydy Tystion Jehofa yn dilyn arweinwyr dynol, doeddwn i ddim yn ei gredu.
Rai misoedd yn ddiweddarach, cafodd Patricia bwl o iselder difrifol a gweddïodd ar Dduw i anfon Tystion Jehofa ati hi eto. Yn fuan wedyn, daeth cymdoges a oedd yn un o Dystion Jehofa heibio a chynigiodd ofyn i Liccy ddod i’w gweld hi. Roedd Liccy yn ffrind go iawn. Daeth i weld Patricia bob wythnos i godi ei chalon ac i astudio’r Beibl. Ond roeddwn i’n dal i amau’r Tystion.
Yn 2012, roedd Tystion Jehofa yn trefnu ymgyrch arbennig i gynnig y fideo Hoffech Chi Wybod y Gwir? yn LESHO. Daeth Liccy â chopi i ni. Pan wyliais y fideo, cefais fy syfrdanu o weld nad oedd llawer o’r athrawiaethau roeddwn i’n arfer dysgu amdanyn nhw, fel yr uffern danllyd a’r enaid anfarwol, i’w cael yn y Beibl.
Yr wythnos wedyn, es i Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa i siarad â Thomas. Dywedais wrtho mod i eisiau helpu pobl fyddar i ddysgu’r gwir am y Beibl, ond doeddwn i ddim eisiau bod yn un o Dystion Jehofa. Fy syniad i oedd ffurfio fy eglwys fy hun ar gyfer pobl fyddar. Fe wnaeth Thomas fy nghanmol am fod yn selog ond wedyn dangosodd i mi Effesiaid 4:5, sy’n pwysleisio bod angen undod yn y gynulleidfa Gristnogol.
Rhoddodd Thomas y fideo Tystion Jehofa—Ffydd ar Waith, Rhan 1: Allan o Dywyllwch i mi yn ASL. Roedd y fideo hwn yn dangos sut aeth grŵp o ddynion ati i chwilio’r Beibl er mwyn deall y gwir am ei ddysgeidiaethau sylfaenol. Wrth i mi wylio’r fideo, roeddwn i’n deall yn iawn sut roedden nhw’n teimlo. Roeddwn i hefyd yn chwilio am y gwir. Ar ôl gwylio’r fideo, roeddwn i’n teimlo’n sicr bod y Tystion yn dysgu’r gwir oherwydd eu bod yn seilio eu credoau ar y Beibl yn unig. Felly, dechreuais astudio’r Beibl eto ac yn 2014, cafodd Patricia a mi ein bedyddio yn Dystion Jehofa.
FY MENDITHION
Rydw i’n hoffi cynulleidfa Tystion Jehofa oherwydd ei bod hi’n lân, fel y mae Duw yn lân. Mae addolwyr Jehofa yn siarad ac yn ymddwyn mewn ffordd lân. Maen nhw’n heddychlon ac yn calonogi ei gilydd. Mae’r Tystion yn unedig ac yn dysgu’r un gwirioneddau o’r Beibl ni waeth lle maen nhw’n byw neu ba iaith maen nhw’n siarad.
Rydw i wedi mwynhau dysgu beth yn union mae’r Beibl yn ei ddweud. Er enghraifft, dysgais mai Jehofa yw’r Duw Hollalluog, Brenin yr holl ddaear. Y mae’n caru pobl fyddar a phobl sy’n medru clywed yr un fath. Rydw i’n gwerthfawrogi cariad Duw tuag ata i yn fawr. Dysgais hefyd y bydd y ddaear yn troi’n baradwys a bod cyfle gynnon ni i fyw am byth yn berffaith iach. Rydw i wir yn dyheu am weld y diwrnod hwnnw!
Mae Patricia a mi wrth ein boddau yn siarad am y Beibl â phobl eraill sy’n fyddar. Heddiw, rydym yn astudio’r Beibl gyda rhai aelodau o’n hen eglwys. Ond bellach does gen i ddim cwestiynau am yr hyn rydw i yn ei ddysgu, fel oedd gen i pan oeddwn i’n weinidog. O’r diwedd, cefais atebion i fy nghwestiynau trwy astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa.