MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
Roeddwn i’n Colli Gafael ar Fy Mywyd
Ganwyd: 1971
Gwlad Enedigol: Tonga
Hanes: Camddefnyddio cyffuriau, carchar
FY NGHEFNDIR
Mae fy nheulu yn dod o Tonga, gwlad sy’n cynnwys tua 170 o ynysoedd, yn ne-orllewin y Môr Tawel. Roedd ein bywyd yn Tonga yn syml, heb drydan a heb gar. Ond roedd dŵr tap yn y tŷ, ac roedden ni’n cadw ychydig o ieir. Yn ystod gwyliau’r ysgol, roeddwn i a fy mrodyr yn helpu ein tad i edrych ar ôl blanhigfa’r teulu, lle roedden ni’n tyfu bananas, a llysiau fel iamau, taro a casafa. Roedd fy nhad yn gwerthu’r cnydau hyn i ychwanegu at y cyflog pitw a gâi o wneud mân swyddi yma ac acw. Fel llawer o bobl eraill ar yr ynysoedd, roedd gan ein teulu barch mawr at y Beibl, ac roedden ni’n mynd i’r eglwys yn rheolaidd. Er hynny, roedden ni’n credu mai symud i wlad gyfoethog oedd yr unig ffordd i gael bywyd gwell.
Pan oeddwn i’n 16 oed, trefnodd fy ewyrth i’r teulu symud i Califfornia yn yr Unol Daleithiau. Roedd dod i arfer â’r diwylliant newydd yn hynod o anodd inni! Yn ariannol, roedden ni’n well ein byd, ond roedden ni’n byw mewn ardal lle roedd trosedd, trais a chyffuriau yn rhemp. Peth cyffredin oedd clywed sŵn saethu yn y nos, ac roedd y rhan fwyaf o’r cymdogion yn ofni’r gangiau. Roedd llawer o bobl yn cario gynnau i’w hamddiffyn eu hunain neu i dorri dadl. Mae bwled yn fy mrest o hyd ar ôl un o’r dadleuon hynny.
Yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i eisiau bod yr un fath â’r bobl ifanc eraill. Yn raddol bach, fe wnes i ddechrau mynd i bartïon gwyllt, yfed yn drwm, ymddwyn yn dreisgar, a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Cyn bo hir, roeddwn i’n gaeth i gocên. Dechreuais ddwyn er mwyn prynu cyffuriau. Er bod y teulu’n mynd i’r eglwys yn ffyddlon, chefais i ddim help o gwbl i wrthod y pwysau i wneud drwg. Roeddwn i’n cael fy arestio yn aml am fod yn dreisgar. Roeddwn i’n colli gafael ar fy mywyd! Yn y diwedd, cefais fy anfon i’r carchar.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD
Un diwrnod yn y carchar ym 1997, gwelodd carcharor arall fod gen i Feibl yn fy llaw. Roedd hi’n adeg y Nadolig, sydd yn amser sanctaidd iawn i’r rhan fwyaf o bobl Tonga. Gofynnodd imi a oeddwn i’n gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud am enedigaeth Crist, ond doedd gen i ddim syniad. Dangosodd i mi’r hanes syml yn y Beibl, a gwelais nad oedd dim sôn o gwbl am lawer o’r pethau sy’n cael eu cysylltu’n draddodiadol â’r Nadolig. (Mathew 2:1-12; Luc 2:5-14) Roeddwn i’n syfrdan, a dechreuais feddwl am beth arall sydd gan y Beibl i’w ddweud. Roedd y dyn wedi bod yn mynd i’r cyfarfodydd yr oedd Tystion Jehofa yn eu cynnal yn y carchar bob wythnos. Penderfynais y byddwn i’n mynd hefyd. Roedden nhw’n trafod llyfr Datguddiad ar y pryd. Nid oeddwn i’n deall fawr ddim o’r drafodaeth, ond gwelais fod popeth yn seiliedig ar y Beibl.
Pan gefais gynnig help gan y Tystion i astudio’r Beibl, cytunais yn syth. Am y tro cyntaf, dysgais fod y Beibl yn addo y bydd y ddaear yn baradwys yn y dyfodol. (Eseia 35:5-8) Daeth hi’n amlwg imi fod angen newid pethau mawr yn fy mywyd er mwyn plesio Duw. Sylweddolais na fyddai lle i’r un o’m harferion drwg yn y Baradwys. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Felly penderfynais reoli fy nhymer, rhoi’r gorau i ysmygu, a pheidio byth â mynd yn ôl i oryfed a chamddefnyddio cyffuriau.
Ym 1999, cyn diwedd fy nedfryd, cefais fy symud i ganolfan cadw mewnfudwyr. Am fwy na blwyddyn, collais bob cysylltiad â’r Tystion. Ond roeddwn i’n benderfynol o wneud y newidiadau. Yn y flwyddyn 2000, collais yr hawl i aros yn yr Unol Daleithiau, a chefais fy anfon yn ôl i Tonga.
Yn Tonga, cysylltais yn syth â Thystion Jehofa a dechrau astudio’r Beibl unwaith eto. Roeddwn i wrth fy modd â’r pethau roeddwn i’n eu dysgu. Gwelais fod y Tystion ar yr ynys yn seilio eu dysgeidiaeth ar y Beibl, yn union fel y Tystion yn yr Unol Daleithiau, ac fe wnaeth hynny argraff fawr arna i.
Roedd fy nhad yn adnabyddus yn y gymdogaeth gan ei fod yn aelod blaengar iawn yn yr eglwys. Felly ar y dechrau, nid oedd fy nheulu yn hapus o gwbl fy mod i’n astudio gyda’r Tystion. Ond newidiodd fy rhieni eu meddyliau pan welon nhw fod y Beibl wedi fy helpu i fyw bywyd gwell.
Un o’r pethau anoddaf imi oedd rhoi’r gorau i gamddefnyddio diod sy’n boblogaidd iawn yn fy niwylliant. Mae llawer o ddynion yn Tonga yn treulio oriau bob wythnos yn yfed cafa, sydd yn ddiod ag effaith sedatif wedi ei gwneud o wreiddiau planhigion pupur. A minnau’n ôl yn fy mamwlad, dechreuais fynd i glybiau cafa bron pob nos, ac yfed cafa nes imi fynd yn swrth. Rhan o’r broblem oedd fy mod i’n cadw cwmni ffrindiau nad oedden nhw’n hidio dim am safonau’r Beibl. Ond yn y diwedd, cefais help i weld nad oedd fy ymddygiad yn plesio Duw. Felly, newidiais fy arferion er mwyn imi gael bendith Duw.
Dechreuais fynychu pob un o gyfarfodydd Tystion Jehofa. Roedd cymdeithasu ag eraill a oedd hefyd yn ceisio plesio Duw yn fy helpu i wrthod temtasiwn. Yn 2002, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.
FY MENDITHION
Mae’r Beibl yn dweud am Jehofa: “Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9) Rydw i mor ddiolchgar am hynny. Gallai Duw fod wedi hen roi terfyn ar y drefn hon a’i holl ddrygioni, ond mae gadael iddi barhau wedi rhoi’r cyfle i bobl fel fi ddod i adnabod Duw a’i garu. Hoffwn feddwl y gall Duw fy nefnyddio i er mwyn helpu eraill i wneud yr un fath.
Gyda chymorth Jehofa, llwyddais i beidio â cholli gafael llwyr ar fy mywyd. Heddiw, yn lle dwyn i dalu am gyffuriau oedd yn difetha fy mywyd, rydw i’n ceisio helpu eraill i ddod yn ffrindiau i Jehofa. Drwy gymdeithasu â Thystion Jehofa cwrddais â fy ngwraig hyfryd, Tea. Erbyn hyn mae gennyn ni fab ifanc, ac rydyn ni’n deulu hapus iawn. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n dysgu pobl eraill am yr addewid yn y Beibl sy’n cynnig cyfle inni fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear.