MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
Wedi Cymodi â ’Nhad o’r Diwedd
GANWYD: 1954
GWLAD ENEDIGOL: Ynysoedd y Philipinau
HANES: Wedi ymddieithrio oddi wrth dad treisgar
FY NGHEFNDIR
Mae llawer o dwristiaid yn ymweld â’r rhaeadr enwog ger tref Pagsanjan yn Ynysoedd y Philipinau. Dyna lle cafodd fy nhad, Nardo Leron, ei fagu. Roedd ei deulu yn dlawd ofnadwy, ac roedd gweld anonestrwydd pobl yn y llywodraeth, yr heddlu, a’r gweithle yn ei droi’n chwerw ac yn ddig.
Roedd fy rhieni’n gweithio’n galed i fagu wyth o blant. Bydden nhw’n aros oddi cartref am gyfnodau maith, yn edrych ar ôl cnydau yn y mynyddoedd. Roedd fy mrawd, Rodelio, a minnau’n gorfod edrych ar ôl ein hunain, ac yn aml roedden ni’n mynd heb fwyd. Nid oedd fawr o amser chwarae i ni blant. Gan ddechrau’n saith oed, roedden ni’n gorfod mynd i weithio ar blanhigfa yn cario llwythi trymion o gnau coco ar hyd llwybrau serth y mynyddoedd. Os nad oedden ni’n medru codi’r llwythi, roedden ni’n gorfod eu llusgo.
Roedd ein tad yn ein curo, ac yn fwy poenus byth oedd ei weld yn curo Mam. Roedden ni’n ceisio ei rwystro, ond doedden ni ddim yn gallu gwneud dim. Cytunodd Rodelio a minnau’n ddistaw bach y bydden ni’n lladd ein tad ar ôl inni dyfu’n hŷn. Roeddwn i’n dyheu am gael tad a oedd yn ein caru ni.
Oherwydd tymer gwyllt fy nhad, gadewais gartref yn 14 blwydd oed gan deimlo’n rhwystredig ac yn flin. Am gyfnod, roeddwn i’n byw ar y stryd a dechreuais ddefnyddio mariwana. Ymhen amser, cefais waith ar y cychod yn mynd â thwristiaid at y rhaeadr.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuais gwrs yn y brifysgol ym Manila. Ond oherwydd fy mod i’n mynd yn ôl i Pagsanjan i weithio dros y penwythnosau, nid oedd gen i fawr o amser i astudio. Roedd fy mywyd yn ddiflas ac yn ddiamcan, ac nid oedd y mariwana bellach yn lleddfu ’mhryderon. Dechreuais arbrofi gyda methamffetaminau, cocên, a heroin. Ac roedd anfoesoldeb rhywiol yn mynd law yn llaw â’r cyffuriau. Roeddwn i’n casáu’r llywodraeth a oedd, yn fy marn i, yn gyfrifol am yr anghyfiawnder, tlodi, a dioddefaint a welais ym mhobman. Gofynnais i Dduw, “Pam mae bywyd mor anodd?” Edrychais ar nifer o grefyddau, ond ches i ddim atebion. Roeddwn i’n cymryd mwy o gyffuriau er mwyn dianc o’r anobaith.
Ym 1972, dechreuodd myfyrwyr yn y Philipinau brotestio yn erbyn y llywodraeth. Ymunais yn un o’r protestiadau, ond aeth pethau’n dreisgar. Cafodd llawer o bobl eu harestio, a rai misoedd wedyn, daeth rheolaeth filwrol i rym ledled y wlad.
Cefais fy hun ar y strydoedd eto, y tro hwn yn ofni’r awdurdodau oherwydd fy rhan yn y gwrthryfel. Er mwyn talu am gyffuriau, fe wnes i droi at ddwyn, ac yn y diwedd, roeddwn i’n puteinio fy hun gyda phobl gyfoethog a thwristiaid. Doedd dim ots gen i a oeddwn i’n byw neu beidio.
Yn y cyfamser, roedd fy mam a fy mrawd ieuengaf wedi dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Roedd fy nhad yn gandryll, ac fe losgodd eu llyfrau am y Beibl. Ond fe wnaeth y ddau ddal ati a chael eu bedyddio’n Dystion.
Un diwrnod, soniodd un o’r Tystion wrth fy nhad am yr addewid yn y Beibl am fyd hollol gyfiawn yn y dyfodol. (Salm 72:12-14) Roedd hyn yn apelio’n fawr at fy nhad, ac fe benderfynodd ymchwilio i’r mater. Yn y Beibl, fe welodd, nid yn unig addewid Duw am lywodraeth gyfiawn, ond hefyd yr hyn mae Duw’n ei ddisgwyl gan wŷr a thadau. (Effesiaid 5:28; 6:4) Yn fuan wedyn, daeth ef a phob un o ’mrodyr a chwiorydd yn Dystion Jehofa. Ond yn bell oddi cartref, doeddwn i ddim yn gwybod dim am hyn.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD
Ym 1978, symudais i Awstralia. Ond hyd yn oed yn y wlad heddychlon a chyfoethog honno, roeddwn i’n methu cael tawelwch meddwl. Roeddwn i’n dal yn gaeth i alcohol a chyffuriau. Yn nes ymlaen y flwyddyn honno, daeth Tystion Jehofa at y drws. Roeddwn i’n hoff iawn o’r hyn a ddangoson nhw imi yn y Beibl am fyd heddychlon, ond roeddwn i’n gyndyn o gael fy nhynnu i mewn.
Yn fuan ar ôl hyn, es i yn ôl i Ynysoedd y Philipinau am ychydig o wythnosau. Dywedodd fy mrodyr a chwiorydd fod fy nhad wedi gweithio’n galed i ddod yn ddyn gwell, ond mor chwerw oedd fy nghalon, roeddwn i’n ceisio osgoi unrhyw gysylltiad ag ef.
Gan ddefnyddio’r Beibl, esboniodd fy chwaer ieuengaf pam mae bywyd mor dorcalonnus ac annheg. Roeddwn i’n synnu bod merch ifanc, ddibrofiad, yn medru ateb fy nghwestiynau. Cyn imi ymadael, rhoddodd fy nhad y llyfr You Can Live Forever in Paradise on Earth a imi. Dywedodd wrtho i: “Does dim rhaid iti redeg ddim mwy. Bydd y llyfr hwn yn dy helpu di i ddod o hyd i’r atebion.” Anogodd fi i gysylltu â Thystion Jehofa yn ôl yn Awstralia.
Dilynais gyngor fy nhad a chael hyd i Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa yn agos i ’nghartref yn Brisbane. Cytunais i astudio’r Beibl yn rheolaidd. Gwelais o’r proffwydoliaethau yn Daniel pennod 7 ac Eseia pennod 9, mai llywodraeth Duw, sy’n hollol gyfiawn, a fydd yn rheoli’r byd yn y dyfodol. Dysgais fod y ddaear yn mynd i fod yn baradwys. Roeddwn i eisiau plesio Duw ond sylweddolais y byddwn i’n gorfod rheoli fy emosiynau, rhoi’r gorau i’r cyffuriau a’r alcohol, a dechrau byw bywyd moesol. Fe wnes i wahanu â’r ferch roeddwn i’n byw gyda hi, a thorri’r arfer o oryfed a chymryd cyffuriau. Wrth i mi ymddiried yn fwy yn Jehofa, roeddwn i’n gweddïo am ei help i wneud newidiadau eraill.
Yn araf deg fe wawriodd arna i fy mod i’n dysgu pethau a oedd yn gallu newid bywyd rhywun yn llwyr. Mae’r Beibl yn dweud ei bod yn bosib i ni newid natur ein personoliaeth. (Colosiaid 3:9, 10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Wrth i mi ymdrechu i wneud hyn, sylweddolais efallai bod fy nhad wedi llwyddo i wneud yr un peth hefyd. Yn lle teimlo’n flin tuag ato, roeddwn i eisiau cymodi. Yn y diwedd, llwyddais i faddau i ’nhad a gollwng y casineb a fu’n pwyso ar fy nghalon ers i mi fod yn blentyn.
FY MENDITHION
Pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn i’n arfer dilyn eraill ac efelychu eu hymddygiad dinistriol. Yn fy achos i, roedd rhybudd y Beibl yn llygad ei le—roedd cwmni drwg wedi mynd â fi ar gyfeiliorn. (1 Corinthiaid 15:33) Ond rydw i wedi gwneud ffrindiau da ymhlith Tystion Jehofa ac maen nhw wedi fy helpu i ddod yn ddyn gwell. Hefyd yn eu plith fe wnes i gyfarfod fy ngwraig hyfryd, Loretta. Gyda’n gilydd rydyn ni’n dysgu eraill am sut mae’r Beibl yn gallu eu helpu.
Diolch i’r Beibl, gwelais fy nhad yn troi’n ŵr cariadus ac yn Gristion gostyngedig a heddychlon—rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei ddychmygu. Ar ôl i mi gael fy medyddio yn un o Dystion Jehofa ym 1987, fe wnes i gwrdd â ’nhad a chael cwtsh ganddo am y tro cyntaf yn fy mywyd!
Am fwy na 35 o flynyddoedd, roedd Dad a Mam yn gweithio gyda’i gilydd i rannu’r gobaith yn y Beibl ag eraill. Daeth Dad yn ddyn gweithgar a chariadus a oedd ag enw da am helpu pobl. Yn ystod y blynyddoedd hynny, dysgais i’w barchu a’i garu. Roeddwn i’n falch o fod yn fab iddo! Bu farw ef yn 2016, ond rydw i’n ei gofio’n annwyl, gan wybod ein bod ni’n dau wedi gwneud newidiadau mawr i’n personoliaethau wrth i ni roi dysgeidiaeth y Beibl ar waith. Does dim awgrym o’r hen gasineb ar ôl. Ac rydw i mor ddiolchgar fy mod i wedi cael hyd i ’nhad nefol, Jehofa Dduw, sydd yn addo cael gwared ar bopeth sy’n achosi dioddefaint i deuluoedd ym mhobman.
a Cyhoeddir gan Dystion Jehofa ond bellach allan o brint.