“Gwneud Fy Ngorau Glas”
Mae Irma bron yn 90 mlwydd oed, ac yn byw yn yr Almaen. Ar ôl dwy ddamwain ofnadwy a sawl llawdriniaeth, dydy hi ddim yn gallu pregethu o dŷ i dŷ fel yr oedd hi cynt. Heddiw, mae Irma yn siarad gydag eraill am ei ffydd trwy ysgrifennu llythyrau at ei pherthnasau a’i chymdogion. Roedd gymaint o groeso i’w llythyrau, a oedd yn llawn anogaeth a chydymdeimlad, nes bod rhai yn ffonio i ofyn pryd oedd y llythyr nesaf am gyrraedd. Hefyd mae hi’n derbyn llawer o lythyrau yn diolch iddi, ac yn gofyn iddi ysgrifennu eto. “Dw i’n hapus iawn yn gwneud hyn ac mae hefyd yn ’nghadw i’n brysur yn y gwaith pregethu,” meddai Irma.
Mae Irma hefyd yn anfon llythyrau at bobl sy’n byw mewn cartrefi nyrsio. “Ffoniodd un ddynes mewn oed a dweud bod y llythyr a anfonais wedi ei chysuro hi’n fawr ar ôl i’w gŵr farw,” meddai. “Mae hi’n cadw’r llythyr yn ei Beibl ac yn ei ddarllen yn aml gyda’r nos. Dywedodd dynes arall, a oedd wedi colli ei gŵr yn ddiweddar, fod fy llythyr wedi ei helpu yn fwy na phregeth yr offeiriad. Roedd ganddi lawer o gwestiynau heb atebion a gofynnodd a fyddai’n bosib iddi alw draw.”
Symudodd un o gymdogion Irma, nad oedd yn un o Dystion Jehofa, yn bell i ffwrdd a gofynnodd i Irma ysgrifennu ati. “Fe wnaeth hi gadw’r llythyrau i gyd,” meddai Irma. “Ar ôl iddi farw, cefais alwad gan ei merch. Roedd hi wedi darllen pob un llythyr yr oeddwn i wedi ei ysgrifennu at ei mam a gofynnodd a fyddwn i mor garedig ag ysgrifennu llythyrau am y Beibl ati hi hefyd.”
Mae Irma wrth ei bodd yn y weinidogaeth. “Dw i’n erfyn ar Jehofa i barhau i roi’r nerth i mi allu ei wasanaethu,” meddai. “Er nad ydw i’n gallu mynd o dŷ i dŷ bellach, dw i’n gwneud fy ngorau glas.”