Neidio i'r cynnwys

Teithiau Tywys Bethel

Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.

Teithiau Tywys Wedi Ailgychwyn: Mewn llawer o wledydd, mae teithiau tywys yn ein swyddfeydd cangen wedi ailgychwyn ers Mehefin 1, 2023. Am fanylion, cysylltwch â’r swyddfa gangen hoffech chi ymweld â hi. Plîs peidiwch ag ymweld os ydych chi’n cael prawf positif am COVID-19, os oes gynnoch symptomau annwyd neu ffliw, neu os ydych chi’n ddiweddar wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.

De Affrica

Gwybodaeth am Deithiau Tywys

Bwcio Taith Dywys

Gweld neu Newid Taith Dywys

Lawrlwytho Taflen Daith

Arddangosfeydd

Prif Ganolfan Ymwelwyr. Bydd nifer o fideos yn mynd â chi y tu ôl i’r llenni er mwyn i chi weld beth sy’n digwydd yn y Bethel a sut mae Bethel yn cefnogi ein haddoliad.

Canolfan Ymwelwyr Argraffdy 2. Mae fideos yn dangos gwerth y gwaith i gyfieithu ac argraffu cyhoeddiadau mewn ieithoedd lleol. O lwyfan uchel mae hi’n bosib gweld y peiriannau argraffu. Mae arddangosfa o Feiblau yn dangos sut mae enw Duw wedi ei ddefnyddio yn y Beibl mewn rhai ieithoedd lleol dros y blynyddoedd.

Canolfan Ymwelwyr Argraffdy 3. O lwyfan uchel cewch weld llawr cyfan yr adran gludo, yn ogystal â sgrin fyw sy’n dangos yr holl lefydd mae’r cyhoeddiadau yn mynd. Mae fideos hefyd yn dangos y gwaith o adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, y gwaith cludo, a’r gwaith o gynhyrchu cyhoeddiadau sain a fideo.

Gwybodaeth. Bydd bysys gwennol ar gael i gludo ymwelwyr rhwng y canolfannau ymwelwyr. Mae croeso i ymwelwyr ddod â phecyn cinio i’w fwyta yn yr Ardal Orffwys.

Cyfeiriad a Rhif Ffôn

Sut i Gyrraedd